Mae Stryd Hapus yn lle llawn hwyl a lliw lle bydd y disgyblion yn rhannu profiadau’r efeilliaid Non a Jac, eu chwaer fach Mari a’u cath Del. Yn Stryd Hapus 1 bydd disgyblion yn cwrdd â Gwyn, cymydog newydd y plant a’i gi Fflos. Bydd y plant a’u hanifeiliaid yn adweithio ag amrywiaeth o gymeriadau difyr wrth iddynt fynd ar eu hynt yn Stryd Hapus.
Seilir pob uned ar leoliad newydd o fewn y stryd. Darpara hyn gyd-destun cyfoethog a chyfarwydd i’r strwythurau a’r testunau y bydd y disgyblion yn dod ar eu traws wrth iddynt ddilyn plant Stryd Hapus ar eu hynt i’r ysgol, parc, siop, canolfan hamdden a llefydd amrywiol eraill.
Strwythur y Cwrs / Course Structure
Rhennir Stryd Hapus 1 i naw uned. Dechreua pob uned yn un o’r amryw leoliadau o fewn y stryd sy’n rhoi cyd-destun real a sefyllfa gyfarwydd fel sail i’r iaith.
Yn ychwanegol, mae pedwar taeniad darllen estynedig dwbl yn y llyfr i gynorthwyo plant i ddatblygu amrediad ehangach o sgiliau darllen ac i’w cyflwyno i iaith fwy amrywiol a chyfoethocach. Mae’r tudalennau hyn yn darparu man cychwyn rhagorol i’r plant gynhyrchu eu gwaith unigryw eu hunain. Darperir y deunyddiau hyn er mwyn i’r athro unigol fanteisio arno yn y ffordd orau i ateb anghenion ac amgylchiadau ei ddosbarth.